#

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-692

Teitl y ddeiseb: Adeiladu Cofeb Mamieithoedd Rhyngwladol ym Mae Caerdydd

Testun y Ddeiseb: Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gymell Llywodraeth Cymru i adeiladu cofeb Ieithoedd Rhyngwladol ym Mae Caerdydd ar gyfer pawb sy'n caru mamieithoedd ledled y byd. 

Cefndir

Mae'r deisebwyr yn egluro:

Cafodd plac ei osod gan Arglwydd Faer Caerdydd yn 2012 ym Mharc Grangemoor, Bae Caerdydd.  Ond o ganlyniad i ddiffyg cyllid ni chafodd ei hadeiladu.

Yn ôl erthygl newyddion:

Dechreuwyd cynllunio ar gyfer y prosiect bron i 10 mlynedd yn ôl pan gyflwynwyd deiseb i'r awdurdod lleol yn galw ar y cyngor i adeiladu cofeb yn dathlu amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol.

Ers hynny, mae cyngor Caerdydd wedi neilltuo tir ym Mharc Grangemoor, drws nesaf i Barc Manwerthu Bae Caerdydd, a sicrhawyd caniatâd cynllunio.

Mae ymgyrchwyr wedi codi dros £45,000 ar gyfer y prosiect ond mae angen codi miloedd o hyd i dalu'r gost o £150,000.

Dathlwyd Diwrnod Rhyngwladol y Famiaith bob blwyddyn ers mis Chwefror 2000 i hyrwyddo amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol ac amlieithrwydd. Mae'r dyddiad yn nodi'r diwrnod ym 1952 pan fu myfyrwyr yn ymgyrchu er mwyn i'w hiaith, sef Bangla, gael ei chydnabod fel un o ddwy iaith genedlaethol Pacistan ar y pryd. Cafodd y myfyrwyr eu saethu a'u lladd gan yr heddlu yn Dhaka, sef prifddinas Bangladesh erbyn hyn.[1]

Camau gan Lywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ar gyfer cofebion o'r blaen. Cwblhawyd cofeb i lowyr Six Bells yn 2010, o ganlyniad i bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Chymunedau yn Gyntaf Six Bells. Talwyd £220,000 am y cerflun a'r prif ariannwr oedd Llywodraeth Cymru o dan Raglen Blaenau'r Cymoedd. Arweiniwyd y prosiect gan y gymuned ac fe'i rheolwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Yn 2012, rhoddodd Llywodraeth Cymru £5,000 tuag at gostau codi cerflun er cof am Fred Keenor, sef capten tîm pêl-droed Dinas Caerdydd, a enillodd Gwpan yr FA ym 1927.

 

Camau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Trafododd y Pwyllgor Deisebau y ddeiseb hon ar 12 Gorffennaf 2016. Yn dilyn hynny, ysgrifennodd at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ar 27 Gorffennaf 2016, yn gofyn iddo am ei farn ar y materion a godwyd yn y ddeiseb. 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 



[1]Y Cenhedloedd Unedig, Diwrnod Rhyngwladol y Famiaith